Rhif y ddeiseb: P-06-1371

Teitl y ddeiseb: Dylid ailagor y safle rheilffordd yn Nantyderi, Goytre Fawr, i'n cynnwys ni ym Metro De Cymru.

Geiriad y ddeiseb:  Mae gennym boblogaeth ddigonol i’w chynnwys yn y cynllun hwn. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r A4042 er mwyn cysylltu â Chaerdydd a Lloegr gyda gwasanaeth bws cyfyngedig. Mae’r galw ymhlith preswylwyr yn cynyddu.

 

 


1.        Y cefndir

Ar wahân i reilffyrdd craidd y Cymoedd, a drosglwyddwyd i berchnogaeth Llywodraeth Cymru yn 2020, nid yw’r seilwaith rheilffyrdd - gan gynnwys gorsafoedd - wedi'i ddatganoli a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw.

Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau i fuddsoddi mewn rheilffyrdd, nid yw’n cael dyraniad Grant Bloc.

Pentref yn Sir Fynwy yw Nantyderi. Mae wedi'i leoli ar Linell Gororau Cymru. Caeodd gorsaf reilffordd y pentref ym 1958. Gan ei fod y tu allan i ardal rheilffyrdd craidd y Cymoedd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fuddsoddi yn Llinell y Gororau.

Mae Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol 2022-2027 Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yn adeiladu gorsafoedd newydd ar reilffordd craidd y Cymoedd, gan gynnwys yn y Crwys a Threbiwt. Aiff yn ei flaen i ddweud "rydym hefyd yn ystyried yr achos dros ragor o orsafoedd newydd a gwelliannu i gyfnewidfeydd mewn sawl lleoliad ledled rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd."

O ran gorsafoedd nad ydynt wedi’u datganoli, mae'r cynllun yn tynnu sylw at waith blaenorol i ailagor gorsafoedd ar y rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol nad yw wedi’i ddatganoli. Mae hyn yn cynnwys Gorsaf Bow St yng Ngheredigion, a agorwyd ym mis Chwefror 2021 gyda buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dilyn ymgyrch hir gan y gymuned leol.

Mae'r cynllun yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru "yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gyfleoedd i agor gorsafoedd ychwanegol ledled y rhwydwaith yn y dyfodol".

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion ar gyfer pum gorsaf newydd ar Brif Linell De Cymru. Daeth y cynigion hyn i'r amlwg o argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru (y 'Comisiwn Burns'), a wnaeth argymhellion ar ddewisiadau amgen i ffordd liniaru'r M4. 

Mae gwaith datblygu yn cael ei wneud gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn dilyn cymeradwyo argymhellion Comisiwn Burns yn adroddiad terfynol 2021 gan Lywodraeth y DU yn Adolygiad Cysylltedd yr Undeb. Fodd bynnag, mae deunyddiau ymgynghori TrC yn ei gwneud yn glir unwaith y bydd y cynigion yn cael eu datblygu, "mae’r prosiect hwn yn dibynnu ar lawer o bethau eraill sy’n digwydd hefyd. Yn bwysicaf oll, mae arnom angen cyllid i gyflawni’r gwaith terfynol."

Yn y gorffennol, mae gorsafoedd newydd Cymru wedi cael eu hariannu'n rhannol drwy Gronfa Gorsafoedd Newydd Llywodraeth y DU.

Mae’r mater ynghylch a yw San Steffan wedi tanariannu seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi cael ei drafod ers peth amser. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ddatganoli cyfrifoldeb gyda chyllid priodol.

Adroddodd Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU ar seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2021. Canfu achos cryf dros fuddsoddiad ychwanegol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru. Fodd bynnag, ni welodd fanteision o ran datganoli’r gwaith o gynllunio ac ariannu seilwaith rheilffyrdd i Gymru. Tynnodd sylw, yn hytrach, at ymrywmiadau sylweddol.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae'r llythyr at y Cadeirydd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y ddeiseb hon yn tynnu sylw at y ffaith mai cyfrifoldeb San Steffan yw Llinell y Gororau. Dywed y llythyr, "Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ein cais am ddatganoli rheilffyrdd pellach yn gyson ac wedi methu â buddsoddi'n ddigonol yng Nghymru."

Aiff ymlaen i ddweud “O bryd i'w gilydd mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi proses ymgeisio gystadleuol” ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru a Lloegr - cyfeiriad at y Gronfa Gorsafoedd Newydd - ac yn tynnu sylw at gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y gorffennol i brosiectau yng Nghymru. Dywed bod ymgysylltu cymunedol cryf yn bwysig yn y broses hon.

Mae Llywodraeth Cymru a TrC wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a Network Rail i ddatblygu piblinell prosiect seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys gorsafoedd newydd. Dywed y Dirprwy Weinidog y gellir ychwanegu prosiectau newydd at y rhestr hon.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Er bod cynigion ar gyfer gorsafoedd newydd wedi cael eu trafod yn rheolaidd yn y Senedd, nid yw'n ymddangos bod cynigion ar gyfer gorsaf newydd yn Nantyderi wedi'u codi hyd yma.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.